Lleoliad:
Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Gwener, 21 Ionawr 2022
Amser:
09.30
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch a:
Owain Roberts
Clerc y Pwyllgor
0300 200 6388
SeneddCyllid@senedd.cymru
------
Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, mae’r Cadeirydd wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd. Bydd y cyfarfod hwn yn cael ei ddarlledu'n fyw ar www.senedd.tv
Rhag-gyfarfod preifat – anffurfiol (09.15-09.30)
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
(09.30)
2 Papurau i'w nodi
(09.30)
2.1 PTN 1 - Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2022-23: Tystiolaeth ysgrifenedig gan Cyswllt Amgylchedd Cymru - Ionawr 2022
(Tudalennau 1 - 6)
2.2 PTN 2 - Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol at y Llywydd: Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2022 - 18 Ionawr 2022
(Tudalen 7)
2.3 PTN 3 - Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2022-23: Gwybodaeth Ychwanegol - Cynghrair Twristiaeth Cymru - Ionwar 2022
(Tudalennau 8 - 10)
3 Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2022-23: Sesiwn dystiolaeth 8
(09.30-11.15) (Tudalennau 11 - 41)
Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Andrew Jeffreys, Cyfarwyddwr y Trysorlys
Emma Watkins, Dirprwy Gyfarwyddwr, y Gyllideb a Busnes y Llywodraeth
Dogfennau atodol:
Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2022 - 2023
Papur briffio y Gwasanaeth Ymchwil
4 Trafod Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2021
(11.15-11.30) (Tudalennau 42 - 44)
Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Andrew Jeffreys, Cyfarwyddwr y Trysorlys
Emma Watkins, Dirprwy Gyfarwyddwr, y Gyllideb a Busnes y Llywodraeth
Dogfennau ategol:
Rheoliadau (PDF, 48KB)
Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig) (PDF, 310KB)
FIN(6)-03-22 P1 – Adroddiad drafft
FIN(6)-03-22 P2 – Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol at y Llywydd – 20 Rhagfyr 2021
5 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn a'r cyfarfod ar 28 Ionawr 2022.
(11.30)
6 Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2022-23: Trafod y dystiolaeth
(11.30-12.00)
7 Ceisiadau o ran Cyllideb Atodol 2021-22 gan Gyrff a Ariennir yn Uniongyrchol
(12.00-12.15) (Tudalennau 45 - 77)
FIN(6)-03-22 P3 – Papur blaen
FIN(6)-03-22 P4 – Cyllideb Comisiwn y Senedd ar gyfer 2021-22
FIN(6)-03-22 P5 – Amcangyfrif Atodol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ar gyfer 2021-22
FIN(6)-03-22 P6 – Amcangyfrif Atodol Archwilio Cymru ar gyfer 2021-22
8 Trafod y flaenraglen waith
(12.15-12.30) (Tudalennau 78 - 85)
Dogfennau ategol
FIN(6)-03-22 P7 – Blaenraglen Waith
9 Adolygiad y Pwyllgor Busnes o amserlen a chylchoedd gwaith y pwyllgorau
(12.30-12.40) (Tudalennau 86 - 94)
Dogfennau ategol
FIN(6)-03-22 P8 – Llythyr gan y Pwyllgor Busnes at Gadeiryddion Pwyllgorau – Adolygiad o amserlen y pwyllgorau a chylchoedd gwaith y pwyllgorau – 7 Ionawr 2022